
Dawns Cymunedol Gorllewin Cymru / Wales Wales Community Dawns
Clifford McLucas
1 Medi 2002
Collodd Dawns Dyfed un o'n cyfeillion gorau ar ddechrau mis Medi 2002. Ar ôl cyfnod o waith dwys a salwch difrifol, bu farw Clifford McLucas yn sydyn yn Ysbyty Singleton, Abertawe.
Daeth Clifford yn ôl o California lle yr oedd yn datblygu prosiect cartograffi dwfn i gwblhau rhan o'r prosiect yn Ffreisdir, Cymru a'r Eidal. Yn ystod y cyfnod hwn, gweithiodd ar Brosiect Ogam yn Sir Benfro. Arddangoswyd ei waith ar y prosiect hwn yn Eisteddfod Genedlaethol Ty Ddewi, Awst 2002. Ar y 3ydd o Awst, gwahoddwyd dros 200 o ffrindiau Clifford i agoriad y gosodiad, a oedd yn cynnwys gair, llun, llais a ffilm.
Dros fwy na phymtheg o flynyddoedd, mae Dawns Dyfed wedi bod yn gysylltiedig â gwaith Clifford McLucas ac wedi cydweithio ar ei brosiectau, yn cynnwys sawl cynhyrchiad gan Brith Gof.
Fel un o'n cyfarwyddwyr, roedd Clifford yn gyfrifol am gynllunio ein datblygiadau dros y cyfnod 1999-2002.
Er bod hyn yn golled anferth i ni, mae Dawns Dyfed yn dathlu bywyd a chyfraniad Clifford i'n llwyddiant fel cwmni celfyddydol cymunedol. Bydd gonestrwydd, ymrwymiad, a gweledigaeth Cliff yn ysbrydoli ein dyfodol. Nôl/Back
Clifford McLucas
1 September 2002
Dawns Dyfed lost one of its best friends at the beginning of September 2002. Following a period of intense work and serious illness, Clifford McLucas died suddenly in Singleton Hospital, Swansea.
Clifford returned from California where he was developing a deep mapping project to complete part of the project in Freisland, Wales and Italy. During this time, he worked on the Ogam Project in Pembrokeshire. His work on this project was exhibited at the National Eisteddfod in St David's, August 2002. On the 3rd of August, more than 200 of his friends were invited to the premiere of the installation which featured word, image, voice and film.
For more than fifteen years, Dawns Dyfed has been connected with Clifford McLucas's work and has collaborated on his projects, including several Brith Gof productions.
As one of our directors, Clifford was responsible for planning our development during the period of 1999-2002.
Although this was been a huge loss to us, Dyfed Dance celebrates Clifford's life and his contribution to our success as a community arts organisation. His honesty, commitment and vision will continue to inspire our future. Nôl/Back